Caerdydd 2 - 1 Preston

Lex Immers Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Lex Immers o'r Adar Gleision yn penio tuag at y gôl

Mae record ddiguro Caerdydd gartref yn parhau wedi buddugoliaeth yn erbyn Preston North End.

Roedd y ddau dîm yn brwydro am bwyntiau i'w symud yn agosach at y gemau ail-chwarae.

Fe aeth Anthony Pilkington a Chaerdydd ar y blaen gyda gôl o gic o'r smotyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ac fe lwyddodd i gyflawni'r un gamp gyda deg munud o'r gêm i fynd.

Sgoriodd Callum Robinson gôl hwyr i Preston, ond symud i lawr i'r degfed safle maen nhw, tra bo'r Adar Gleision bellach yn seithfed yn y tabl.