Casnewydd 1 - 0 Mansfield

Scott Boden Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gol Scott Boden yn sicrhau'r ail fuddugoliaeth yn olynol i Gasnewydd am y tro cyntaf ers 13 mis

Mae gobeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran yn fyw yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Mansfield.

Di-sgôr oedd hi y rhan fwyaf o'r gêm, wrth i'r ddau dîm ymdrechu i chwarae ar amodau gwael y cae.

Chafodd gôl gan Ryan Tafazolli o Mansfield yn fuan wedi'r hanner ddim o'i chaniatáu, a phedair munud cyn diwedd y gêm llwyddodd Scott Boden i ergydio'r bêl i gefn y rhwyd am ei bumed gôl mewn pedair gêm.

Mae Casnewydd yn codi i safle 19 yn y tabl, wyth pwynt uwchben y gemau ailgyfle.