'Angen oedi cyn diwygio datganoli' medd pwyllgor ASau

Mesur Cymru

Mae angen gohirio cynlluniau i newid y ffordd y mae datganoli yn gweithio yng Nghymru, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, gynigion i roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru ar ynni, trafnidiaeth ac etholiadau, a rhoi mwy o eglurder ar ba bwerau sydd wedi eu datganoli.

Ond mae'r cynlluniau wedi arwain at ffrae chwerw gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau, sy'n dweud y byddai rhannau eraill o'r pecyn yn gadael gweinidogion Cymru â llai bŵer, nid mwy.

Nawr, mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dweud bod angen oedi'r broses.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen ailfeddwl rhestr y pwerau nad sydd wedi eu datganoli, gan alw ar Whitehall i egluro'n well pam na ddylai rhai materion gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Ac mae'n dweud bod yr awgrym y gallai fod angen i Weinidogion Cymru ofyn am ganiatâd o Lundain cyn cymeradwyo rhai deddfau yn "rhy gymhleth".

Mae'r adroddiad yn dweud y gellid datrys y broblem trwy gyflwyno cyfnod o 60 diwrnod i weinidogion Llywodraeth Prydain godi unrhyw wrthwynebiadau i gyfreithiau arfaethedig.

Mae Aelodau Seneddol y pwyllgor wedi methu â chytuno'n unfrydol a ddylai creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru - yn hytrach na Chymru a Lloegr - fod yn rhan o'r Mesur.

Dywedodd David Davies, AS Ceidwadol Mynwy, sy'n cadeirio'r pwyllgor: "Yn ystod yr ymchwiliad, mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth sy'n codi amheuon ynghylch gallu'r Mesur drafft i ddarparu'r setliad parhaol y mae'n ceisio ei greu.

"Mae'r broses cyn deddfu wedi bod yn gyfle i wyntyllu'r pryderon hyn. Felly, mae angen cyfnod i ystyried er mwyn sicrhau setliad hirdymor."

Bydd pwysau nawr ar Mr Crabb i gyhoeddi a fydd yn bwrw ymlaen â'r broses neu'n cytuno i'r awgrym y dylid oedi. Mae Mr Crabb eisoes wedi gwneud yn glir y bydd yna newidiadau i'r Mesur.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad craffu trylwyr a chynhwysfawr y Pwyllgor Materion Cymreig ar Fesur Drafft Cymru ac rydym yn falch fod llawer o'r argymhellion yn atseinio'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gennym i wella'r Mesur.

"Byddwn yn ystyried yr argymhellion yn ofalus."

Yn ôl llywodraeth Cymru, fyddai 14 o'r 19 biliau sydd wedi eu pasio ers 2011 ddim wedi bod yn bosibl o dan y system newydd arfaethedig.

Maen nhw'n cynnwys y cynlluniau i newid y drefn o roi oragnau i system "caniatâd tybiedig", a ddaeth i rym ym Rhagfyr 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau'r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - sef bod y broses a ddilynwyd wrth ddatblygu'r Mesur drafft yn sylfaenol ddiffygiol, ac na all y Mesur, fel y mae wedi ei drafftio, ddarparu'r setliad clir, cydlynol a chynaliadwy i Gymru yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud ei fod yn ymdrechu i'w gael."