Apêl am dystion wedi lladrad

Lladrad Treffynnon Image copyright Google

Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn lladrad yn ardal Treffynnon brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i siop bapurau Pen y Maes ym Mryn y Gwynt, Treffynnon wedi'r digwyddiad tua 15:00.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynu'r cyfeirnod U028584.