Pennaeth dros dro i'r Ardd Fotaneg

The Great Glasshouse at the National Botanic Garden of Wales Image copyright PA

Mae Gardd Fotaneg Cymru, yn Sir Gaerfyrddin, wedi penodi cyfarwyddwr dros dro wedi i Dr Rosie Plummer ymddiswyddo'r llynedd.

Fe fydd Gary Davies yn dechrau ar ei swydd ar 1 Mawrth.

Mr Davies oedd pennaeth marchnata cyntaf yr Ardd pan gafodd ei hagor yn 1997.

Ers hynny bu'n brif weithredwr Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru ac yn gyfarwyddwr parc pleser Oakwood yn Sir Benfro.

Fe wnaeth Dr Plummer gyhoeddi y byddai'n gadael ym mis Rhagfyr.

Ychwanegodd ei bod yn poeni am yr her sy'n wynebu'r Ardd yn y dyfodol oherwydd toriadau gan y llywodraeth a'r cyngor sir.

Straeon perthnasol