Ymchwil Canser Cymru'n rhoi £1.6m wrth nodi 50 mlynedd

Ymchwil canser Image copyright Reuters

Pam fod Cymru'n perfformio'n salach o'i gymharu â gwledydd tebyg wrth roi diagnosis cynnar i ganser?

Dyna un cwestiwn fydd prosiect ymchwil newydd - sy'n cael ei ddisgrifio fel y cynta' o'i fath yn y byd - yn ei ystyried.

Bydd yr astudiaeth honno, ynghyd ag un arall sy'n edrych ar driniaethau newydd ar gyfer canser y coluddyn, yn derbyn £1.6m gan Ymchwil Canser Cymru.

Mae'r elusen yn rhoi'r arian wrth iddyn nhw nodi eu hanner can mlwyddiant.

Diagnosis cynnar

Bydd un o'r prosiectau sy'n derbyn arian yn edrych ar ddiagnosis cynnar o ganser - maes sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Y gred yw bod mwy o gleifion canser yn marw yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU am fod achosion yn cael eu darganfod yn hwyr.

Cafodd y wobr hon ei rhoi i'r Athro Richard Neal, o Brifysgol Bangor, sydd ei hun yn feddyg teulu ac yn un o'r arbenigwyr amlyca' yn y byd ym maes diagnosis cynnar o ganser.

Mae adnabod arwyddion o ganser yn gynnar yn golygu fod gan gleifion well siawns o oroesi, gan eu bod yn haws i'w rheoli, eu trin a'u gwella.

Mae'r Athro Neal wedi bod ar flaen y gad yn llywio'r gwaith yma yng Nghymru, gan edrych ar bob agwedd o ganser, gan gynnwys epidemioleg a chyfraddau goroesi; ymwybyddiaeth ac agweddau'r cyhoedd; ac agweddau, ymddygiad a systemau ym maes gofal cynradd.

Mae Ymchwil Canser Cymru eisoes yn ariannu rhan o waith yr Athro Neal, ond bydd y cyllid diweddara' yn ei alluogi i ddatblygu a gwerthuso ffyrdd o gael meddygon teulu i weithredu'n gyflymach os oes arwyddion o ganser, er mwyn cael diagnosis cynharach. Y gobaith yw y bydd ymchwil yr Athro Neal a'i dîm yn galluogi achosion posib o ganser i gael eu cyfeirio'n gynt.

Image copyright Science Photo Library
Image caption Canser y coluddyn yw un o'r rhai sy'n achosi'r nifer ucha' o farwolaethau yng Nghymru

Canser y coluddyn

Bydd yr ail brosiect yn edrych ar driniaethau imiwnotherapi ar gyfer cleifion sydd â chanser y coluddyn.

Mae rhai o'r therapïau hyn, sydd ymhlith rhai o'r datblygiadau mwya' ym maes triniaeth canser yn y blynyddoedd diweddar, yn cael eu defnyddio i hybu gallu system imiwnedd y claf ei hun i daclo canser yn y corff.

Mae canser y coluddyn yn achosi mwy o farwolaethau yng Nghymru na bron yr un math arall, gyda 1,000 o gleifion yn colli eu bywydau oherwydd yr afiechyd pob blwyddyn.

Yr Athro Andrew Godkin a'i dîm, o Ysbyty Prifysgol Cymru, sy'n derbyn y wobr Ymchwil Canser Cymru eleni. Nhw oedd y cynta' yng Nghymru i gynnal profion clinigol oedd yn defnyddio brechlyn canser i drin celloedd. Bydd y rhaglen ymchwil newydd hon yn ceisio darganfod a datblygu ffurfiau mwy effeithiol o imiwnotherapi ar gyfer trin canser y coluddyn.

'Arian pobl Cymru'

Cafodd Ymchwil Canser Cymru ei sefydlu yn 1966 gan grŵp bychan o feddygon yn Ysbyty Felindre, Caerdydd. Erbyn hyn mae wedi datblygu'n un o'r prif gyrff ym maes darganfod a datblygu triniaethau canser newydd.

Wrth i'r elusen nodi 50 mlynedd yr wythnos hon gyda'r cyllid newydd, dywedodd y cyfarwyddwr Liz Andrews: "Rwyf wrth fy modd yn gallu dathlu'r hanner can mlwyddiant trwy addo £1.6m yn ychwanegol i brosiectau cyffrous sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mae hwn yn arian sydd wedi'i godi'n uniongyrchol gan bobl Cymru trwy eu hymroddiad i godi arian a gwirfoddoli, neu drwy roddion hael.

"Nawr bydd pobl yn gweld yr effaith all yr arian ei gael yn y frwydr yn erbyn canser, yn ystod y broses ddiagnosis a gofal cynradd, ac wrth ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer afiechyd sy'n effeithio ar gymaint yma yng Nghymru."

Straeon perthnasol