Crawley Town 2 - 0 Casnewydd

gol Image copyright Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes clwb pêl droed Casnewydd yn eu gêm oddi cartref yn erbyn Crawley Town nos Fawrth yn yr Ail Adran.

Llwyddodd Scott Boden i rwydo'r bêl i'w gol ei hun a rhoi mantais i Crawely Town wedi 36 munud, ac fe gynyddodd Crawley eu mantais eto wedi 53 munud gyda gôl gan Shamir Fenelon.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Alltudion wedi 85 munud gydag Elito'n cael ei anfon o'r cae ar ôl derbyn cerdyn coch.

Fe dreuliodd is-reolwr Crawley, Jimmy Dack, dros dair blynedd ar Rodney Parade ac roedd yn wynebu clwb y bu'n rheolwr arno rhwng Ionawr a Mai 2015.