Cyn fewnwr Cymru Dwayne Peel yn cyhoeddi ei ymddeoliad

dwayne peel Image copyright Huw Evans picture agency

Mae cyn fewnwr Cymru, Dwayne Peel, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad yn dilyn cyngor meddygol.

Fe enillodd Peel 76 cap dros ei wlad rhwng 2001 a 2011 a chynrychiolodd y Llewod mewn tri Phrawf.

Wedi 20 o gemau i Fryste ar ôl ymuno â nhw yn 2014, bydd y gŵr 34-mlwydd-oed nawr yn rhan o'r tîm hyfforddi.

Fe ddechreuodd Peel ei yrfa gyda Llanelli ac yna'r Scarlets a bu'n rhan o dîm Cymru gipiodd y Gamp Lawn yn 2005 a 2008.

"Yn dilyn y cyngor meddygol, doedd gen i ddim llawer o ddewis," meddai.

"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i fwynhau profiadau anhygoel yn ystod fy ngyrfa chwarae ac wedi cyfarfod â phobl wych.

"Rwy'n ddiolchgar i Rygbi Bryste am eu cefnogaeth a byddaf yn parhau i weithio ochr yn ochr gyda'r tîm hyfforddi er mwyn sicrhau bod y tymor yn gorffen ar nodyn uchel."