Gwrthdrawiad Moel Famau: Dynes mewn cyflwr difrifol

Bwlch pen barras Image copyright Chris Rawes

Mae dynes wedi ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd fynydd yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Fwlch Pen Barras ger Moel Famau, Rhuthun, am tua 12:00 ddydd Iau, yn dilyn adroddiad bod car wedi gadael y ffordd.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans yrru car, ambiwlans a dau hofrennydd i'r safle, a chafodd dynes ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw un arall yn teithio yn y car, ac maen nhw'n apelio am wybodaeth.

Image copyright Chris Rawes