Achub dyn a dynes wedi tân mewn tŷ yn Llanelli

Clos Cilsaig Image copyright Google

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu hachub o dân mewn tŷ yn Llanelli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 01:00 fore Gwener i'r eiddo yng Nghlos Cilsaig yn ardal Dafen o'r dref wedi i'r tân gynnau yn y gegin.

Roedd y dyn yn yr ystafell fyw ar y llawr gwaelod a'r ddynes mewn ystafell wely fyny'r grisiau pan ddaeth y gwasanaeth tân i'r adwy.

Cafodd y ddau gymorth cyntaf ar ôl dioddef o effeithiau'r mwg a fe'u cludwyd i Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli.