Scarlets 24-15 Treviso

rygbi

Fe lwyddodd y Scarlets i atgyfnerthu eu lle yn y Pro12, yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Treviso.

Cafwyd ceisiadau gan Steffan Evans a James Davies yn y chwarter agoriadol, gan sicrhau fod y Scarlets yn arwain o 14-3 ar yr egwyl.

Fe lwyddodd dau gais yn yr ail hanner gan Robert Barbieri i roi Treviso ar y blaen, ond fe ymatebodd y Scarlets gydag ail gais gan Evans i sicrhau'r pedwar pwynt i dîm y sosban.

Ond methodd y Scarlets â sgorio pedwerydd cais, a fyddai wedi sicrhau pwynt bonws iddynt.