Casnewydd 1-0 Wycombe Wanderers

casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd 14eg gôl Scott Boden o'r tymor i leddfu ofnau Casnewydd o ddisgyn o'r Ail Gynghrair ar ddiwedd y tymor, wrth i'r Alltudion gipio'r tri phwynt yn erbyn Wycombe Wanderers ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth y gôl gan Boden wedi 25 munud yn yr hanner cynta', ond fe ddaeth Wycombe yn ôl yn gryf yn yr ail hanner.

Er yr ymdrech fawr, yr unig ymgais ddaeth yn agos at gôl i'r ymwelwyr oedd ergyd gan Rowan Liburd, a lwyddodd i daro'r trawst.

Felly, ochr Warren Feeney yn sicrhau eu trydedd buddugoliaeth gartref yn olynol, ac oherwydd yn symud 11 pwynt yn glir o'r safleoedd cwymp.