Leinster 19-16 Gweilch

leinster gweilcg Image copyright Huw Evans picture agency

Mae record gartref 100% Leinster yn y Pro12 y tymor hwn yn parhau, wedi i'r gwyddelod ennill yn erbyn y Gweilch ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm cartref yn arwain o 16-3 ar yr hanner gyda chymorth cais gan Dan Leavy.

Fe sgoriodd Dan Baker wedi 60 munud, gan roi gobaith i'r ymwelwyr, ond er gwaethaf ymgais gref i ymladd yn ôl, roedd yn rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig.

Fe lwyddodd Ian Madigan i drosi pedwar cic gosb i Leinster, tra giciodd Sam Davies 11 pwynt i'r Gweilch.