Hamilton a Reckless ar frig rhestr ymgeiswyr UKIP

Hamitlon
Image caption Neil Hamilton ym Mae Caerdydd

Mae dau cyn Aelod Seneddol Ceidwadol wedi eu dewis i arwain dwy restr ranbarthol i UKIP yn etholiadau'r Cynulliad.

Neil Hamilton yw'r prif ymgeisydd ar gyfer y Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae Mark Reckless ar frig rhestr De Ddwyrain Cymru.

Daw hyn yn dilyn pryderon o fewn rhai canghennau eu bod nhw'n cael eu gorfodi i gynnig ymgeiswyr o'r tu allan i Gymru.

Arweinydd UKIP Cymru, Nathan Gill, sydd ar frig rhestr y blaid yng Ngogledd Cymru, gyda Caroline Jones yn Ne Orllewin Cymru a Gareth Bennett yng Nghanol De Cymru.

Roedd aelodau UKIP yn yng Nghymru yn pleidleisio ar restr a fyddai'n cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid ddydd Llun.

Mae'r arbenigwyr yn rhagweld y gall UKIP gael naw Aelod Cynulliad ar y rhestr ranbarthol yn seiliedig ar arolwg barn diweddar ITV Cymru.