Athro ysgol gynradd yn ddieuog o ymosod yn anweddus

LLys
Image caption Llys y Goron Casnewydd

Mae athro ysgol gynradd wedi ei gael yn ddieuog o ymosod yn anweddus ar naw o'i ddisgyblion.

Roedd Phillip Monk, 61 oed, o Benycoedcae, Pontypridd, yn wynebu 23 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar unigolion o dan 14 oed mewn achos yn Llys y Goron Casnewydd.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o ymosod yn anweddus ar saith o'i ddisgyblion rhwng 1984 a 1995.

Mewn gwrandawiad ddydd Llun, ni wnaeth yr erlynydd Suzanne Thomas gynnig tystiolaeth mewn cysylltiad â dau ddisgybl arall ac fe wnaeth y Barnwr Daniel Williams ddyfarnu bod Mr Monk yn ddieuog i'r honiadau yn yr achosion hyn hefyd.