Gwahardd pêl droediwr wedi sylwadau ar Twitter

Adam Johnson Image copyright PA
Image caption Bydd Adam Johnson yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach yn y mis

Mae chwaraewr pêl-droed yn Uwchgynghrair Cymru wedi ei wahardd rhag chwarae ar ôl gwneud sylwadau ar twitter yn dilyn achos llys Adam Johnson.

Cafodd Johnson, sy'n gyn-chwaraewr i Loegr a Sunderland, ei ganfod yn euog o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn yr wythnos ddiwethaf.

Mi wnaeth Ryan Wade, sydd yn chwarae i glwb Airbus UK Brychdyn, ei sylwadau y diwrnod ar ôl i Johnson gael gwybod dyfarniad y rheithgor.

'Edrych ar y mater'

Cafodd Wade, sydd yn 28 oed, ei wahardd yn syth ac mae'r clwb yn ymchwilio.

Dywedodd Gwyn Derfel, ysgrifennydd Uwchgynghrair Cymru, ei fod yn "ymwybodol o'r sylwadau honedig ac mae adran cydymffurfio Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn edrych ar y mater".

Mae gan y Gymdeithas bwerau disgyblu, ac ar ddechrau bob tymor mae cod ymddygiad yn cael ei anfon at y clybiau sy'n cynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Mi arwyddodd Ryan Wade gyda'r clwb o Frychdyn bedair blynedd yn ôl ac mae wedi chwarae 28 o weithiau'r tymor yma gan sgorio 4 gôl.