Nick Bennett
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Angen adolygiad o ofal tu allan i oriau arferol'

8 Mawrth 2016 Diweddarwyd 06:28 GMT

Mae angen adolygiad systemig o ofal iechyd mewn ysbytai y tu allan i oriau arferol, yn ôl yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dywedodd Nick Bennett bod esiamplau o "safonau annigonol o ofal" dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ar benwythnosau.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, dim ond un achos sydd wedi digwydd tra ei fod yn ei swydd, ac fe wnaeth ddelio gyda'r achos yn llawn.