Dim newid i dîm Cymru i herio Lloegr

Gareth Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Gareth Davies yn cadw ei le yn safle'r mewnwr, er i Rhys Webb gael ei gynnwys yn y garfan

Mae Warren Gatland wedi dewis yr un tîm a gurodd Ffrainc i wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae Bradley Davies yn cadw ei le yn yr ail reng, ac mae Gareth Davies yn dechrau yn safle'r mewnwr, er bod Luke Charteris a Rhys Webb ar y fainc.

Dyma'r tro cyntaf i Webb fod yng ngharfan Cymru ers anafu ei ffêr cyn Cwpan y Byd.

Mae Paul James hefyd wedi ei gynnwys ar y fainc yn lle Gethin Jenkins.

Tîm Cymru i wynebu Lloegr:

Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Gareth Davies, Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, Rhys Priestland, Gareth Anscombe.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dyw Rhys Webb heb chwarae i Gymru ers cyn Cwpan y Byd

Chwaraeodd Webb am y tro cyntaf ers ei anaf i'r Gweilch ym mis Chwefror, ar ôl cael ei anafu yn chwarae yn erbyn Yr Eidal ym mis Medi.

Does yr un o'r ddau dîm wedi colli gêm yn y bencampwriaeth hyd yma, gyda Lloegr yn mynd am y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 2003.

Dywedodd Gatland bod y tîm wedi perfformio'n dda yn erbyn Ffrainc a'i fod yn "edrych iddyn nhw wneud hynny eto i ni ar y penwythnos".

"Mae gyda ni gwpl o chwaraewyr yn ôl ar y fainc wedi anafiadau - Luke Charteris, Paul James a Rhys Webb - ac mae hynny'n fonws.

"Mae lot fawr i chwarae amdano ddydd Sadwrn a bydd yn rhan fawr o benderfynu pwy fydd pencampwyr y Chwe Gwlad."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dadansoddiad Cennydd Davies.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 15:30 ddydd Sadwrn, ac am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.