Y teclynnau bychan dibeilot
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Arddangos drôn ar llain lanio Llanbedr yng Ngwynedd

8 Mawrth 2016 Diweddarwyd 17:52 GMT

Awyrennau'r awyrlu oedd yn Llanbedr yng Ngwynedd ar un cyfnod. Ond erbyn hyn teclynnau bychan dibeilot sy'n lansio o'r llain lanio.

Yr wythnos yma mae cwmni QinetiQ, sy'n berchen y teclynnau, wedi bod yn eu harddangos.

Mae un teclyn yn mapio tirwedd, sy'n gallu helpu wrth gynllunio mesurau atal llifogydd. Mae'r cwmni hefyd yn datblygu drôn i blismona llongau sy'n pysgota oddi ar arfordir Cymru.

Ond mae rhai yn pryderu y gallen nhw gael eu defnyddio ar gyfer dibenion militaraidd.

Canolbwyntio ar ddatblygu drônau at ddefnydd cyhoeddus mae'r cwmni yn Llanbedr ar hyn o bryd, ond maen nhw'n cydnabod y gallai arbrofi milwrol ddigwydd ar y safle yn y dyfodol.

Mae'n gohebydd ni Steffan Messenger wedi bod draw i Lanbedr.