Cyhuddo dyn o lofruddio dynes ym Mae Caerdydd

bae caerdydd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod ym Mae Caerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Christine James, 65 oed, mewn fflat yn Century Wharf ar 2 Mawrth.

Mae Kris Wade, 36 oed o Fae Caerdydd, wedi ei gyhuddo o lofruddio a bydd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru: "Mae teulu Christine wedi cael eu diweddaru gyda datblygiadau heddiw ac maen nhw'n parhau i gael cefnogaeth swyddogion arbenigol yr heddlu yn ystod y cyfnod anodd hwn."