Tuilagi ar y fainc i Loegr

Manu Tuilagi Image copyright Getty Images
Image caption Manu Tuilagi: Heb chwarae i Loegr ers Mehefin 2014

Mae'r canolwr Manu Tuilagi wedi ei ddewis ar y fainc wrth i Loegr gyhoeddi eu tîm i wynebu Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Does yna ddim newid i'r 15 wnaeth drechu Iwerddon.

Dyw Tuilagi, 24, heb chwarae i Loegr ers Mehefin 2014 oherwydd anaf i'w goes a phroblemau gyda disgyblaeth.

Mae'r prop Kieran Brookes hefyd wedi ei ddewis ar y fainc.

Lloegr: Mike Brown; Anthony Watson, Jonathan Joseph, Owen Farrell, Jack Nowell; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Dylan Hartley (capt), Dan Cole; Maro Itoje, George Kruis; Chris Robshaw, James Haskell, Billy Vunipola.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, Jack Clifford, Danny Care, Manu Tuilagi, Elliot Daly.


Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.