Strategaeth addysg Gymraeg wedi methu cyrraedd ei thargedau

Ysgol

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i wella addysg Gymraeg wedi methu â chyrraedd ei phrif dargedau, yn ôl ymchwiliad annibynnol.

Mae galluogi mwy o blant saith oed i ddysgu drwy'r Gymraeg a galluogi mwy o ddisgyblion i barhau i astudio yn yr iaith yn yr ysgol uwchradd ymhlith amcanion strategaeth addysg Gymraeg y Llywodraeth.

Ond ar ddiwedd asesiad tair blynedd, mae adroddiad annibynnol, gafodd ei gomisiynu gan Weinidogion, yn dweud nad yw amcanion y strategaeth wedi eu gosod yn gyson yn y system addysg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad.

Adolygu targedau

Roedd y Strategaeth Addysg Gymraeg, gafodd ei chyhoeddi yn 2010 yn gosod targedau pump a 10 mlynedd i ddatblygu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Mae'r adroddiad gan ymchwil Arad yn dweud bod yna gefnogaeth ar gyfer amcanion y strategaeth ond nad yw rhai cynghorau lleol wedi dangos digon o gynllunio ymlaen llaw i gefnogi twf mewn addysg Gymraeg.

Maen nhw'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r targedau ar gyfer 2020 a'i fod yn ailddatgan ei "gweledigaeth a'i hymrwymiad i ddatblygu darpariaeth addysg Gymraeg."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod yr adroddiad yn dangos "methiannau difrifol".

'Camau radical'

Dywedodd llefarydd addysg y mudiad iaith, Toni Schiavone:

"Mae geiriau'r adroddiad mor ddamniol ag y gallen nhw fod am Gymraeg ail iaith gan ystyried mai'r Llywodraeth sydd wedi comisiynu'r adroddiad.

"Mae angen i'r Llywodraeth nesaf gymryd camau radical i ddatrys hyn oll fel bod yr iaith yn ffynnu dros y degawdau i ddod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad.

"Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn sy'n gwerthuso'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

"Fe'i comisiynwyd i fesur effeithiolrwydd a dylanwad ein strategaeth. Mae wedi dod i'r casgliad bod y strategaeth wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, a dull mwy strategol a ffocysu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i argymhellion yr adroddiad wrth i ni barhau i ddatblygu ein polisïau.

"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weld y Gymraeg yn ffynnu ac fe gyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw (dydd Iau) fod y siarter iaith Gymraeg, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Gyngor Gwynedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, yn cael ei hymestyn i bob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru," ychwanegodd llefarydd.