Pryder am ffitrwydd Aaron Ramsey i Gymru

Aaron Ramsey Image copyright Reuters

Mae'n debyg y bydd chwaraewr canol cae Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, yn methu'r ddwy gêm gyfeillgar i'w wlad yn ddiweddarach yn y mis.

Cafodd Ramsey ei anafu ym muddugoliaeth Arsenal o 4-0 dros Hull yng Nghwpan yr FA.

Y gred yw y bydd yn methu gemau Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon a'r Iwcraen wrth baratoi at Euro 2016 ym mis Mehefin.

Er hynny, nid yw rheolwr Arsenal, Arsene Wenger yn credu y bydd yr anaf yn ei gadw allan o'r bencampwriaeth ei hun: "Mae'r arwyddion yn bositif. Ar y dechrau, rydyn ni'n dweud pedair wythnos."

Chwaraeodd Gareth Bale ei gem gyntaf i Real Madrid yn ddiweddar yn dilyn cyfnod allan gydag anaf.