Rhyddid y Ddinas i gadetiaid Abertawe

215 (Swansea) Squadron Image copyright 215 (Swansea) Squadron

Roedd cadetiaid awyr yn gorymdeithio drwy strydoedd Abertawe ddydd Sadwrn wrth ddathlu derbyn anrhydedd Rhyddid y Ddinas.

Sgwadron 215 (Abertawe) sy'n derbyn yr anrhydedd wrth ddathlu eu pen-blwydd yn 75 oed.

Mae'r anrhydedd hefyd yn gydnabyddiaeth o'u gwaith yn y gymuned.

Mae'r cadetiaid, sy'n rhan o adain hyfforddi'r Llu Awyr, yn helpu'r Lleng Prydeinig i drefnu Sul y Cofio a'r Apêl Pabi blynyddol.

Image copyright 215 (Swansea) Squadron

Dywedodd Arglwydd Faer Abertawe, y cynghorydd John Newbrury, fod y sgwadron wedi codi dros £503,000 ar gyfer digwyddiadau Sul y Cofio dros gyfnod o 12 blynedd.

"Mae rhoi Rhyddid y Ddinas i'r sgwadron yn ffordd addas o ddathlu eu pen-blwydd yn 75 a hefyd cydnabod y gwaith o godi arian at achosion da.

Yn ogystal â'r cadetiaid, mae rhai eraill sydd wedi derbyn anrhydedd Rhyddid Dinas Abertawe yn cynnwys y Gwarchodlu Cymreig a chyn arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter.

Image copyright 215 (Swansea) Squadron