Lloegr dan-20 16-42 Cymru dan-20

Harrison Keddie of Wales is tackled by George Worth and Mathew Protheroe Image copyright Huw Evans picture agency

Mae tîm dan-20 Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg ar ôl curo Lloegr oddi cartref 42-16.

Mae'r canlyniad yn golygu y bydd Cymru'n ennill y Gamp Lawn pe bai nhw'n curo'r Eidal yn eu gem olaf.

Cymru oedd ar y blaen 28-3 ar ôl hanner awr o'r chwarae ym Mryste.

Sgoriodd y maswr Dan Jones 17 o bwyntiau gan gynnwys cais.

Croesodd Shaun Evans, Harri Millard, Keelan Giles (2) a Harrison Keddie i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Sam Smith sgoriodd cais Lloegr, gydag esgid Matthew Protheroe yn ychwanegu 11 o bwyntiau.

Cymru: Rhun Williams (RGC); George Gasson (Dreigiau), Harri Millard (Gleision), Owen Watkin (Gweilch), Keelan Giles (Gweilch); Daniel Jones (Scarlets), Reuben Morgan-Williams (Gweilch); Corey Domachowski (Gleision), Dafydd Hughes (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Shane Lewis-Hughes (Gleision), Adam Beard (Gweilch), Tom Phillips (captain, Scarlets), Shaun Evans (Scarlets), Harrison Keddie (Dreigiau)

Eilyddin: Ifan Phillips (Scarlets), Rhys Fawcett (Scarlets), Leon Brown (Dreigiau), Bryce Morgan (Dreigiau), Morgan Sieniawski (Gleision), Declan Smith (Scarlets), Billy McBryde (Scarlets), Joe Thomas (Gweilch)