Portsmouth 0-3 Casnewydd

Alltudion Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd yr Alltudion fuddugoliaeth wych oddi cartref yn erbyn Portsmouth yn Fratton Park ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Casnewydd yn gyntaf yn hwyr yn yr hanner cyntaf gyda gôl gan Darren Jones.

Cafodd Gary Roberts ail gerdyn melyn a'i hel o'r cae gan ychwanegu at drafferthion y tîm cartref, ac yna fe ychwanegodd Scott Boden at fantais Casnewydd, cyn i Dean Morgan ddod ar y cae a sgorio'r drydedd gôl.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Casnewydd nawr yn y deunawfed safle yn y gynghrair.