Gwyddonydd dylanwadol wedi marw

Yr Athro Chris McGuigan

Mae un o brif wyddonwyr Cymru a'r DU ym maes cyffuriau canser wedi marw yn dilyn brwydr gyda'r afiechyd.

Roedd yr Athro Chris McGuigan o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn arbenigwr ar ddatblygu cyffuriau gwrth-ganser.

Fo hefyd oedd cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru., sydd yn fenter gwerth £15m sy'n gobeithio arianu 100 o gynlluniau i ddarganfod cyffuriau newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol ei fod wedi bod "wrth galon ymchwil gwyddonol am dros 30 o flynyddoedd."

Ychwanegodd bod yr Athro McGuigan yn "ddyfeisiwr a chemegydd rhyfeddol o alluog", ac fe fyddai ei farwolaeth yn cael ei "deimlo drwy'r brifysgol a'r gymuned wyddonol ehangach".

Roedd Athro McGuigan yn arbenigo mewn darganfod a datblygu cyffuriau ar gyfer canser, HIV, Hepatitis B ac C, yr eryr, y frech goch ag afiechydon sy'n effeithio ar y nerfau.

Fe ddyfeisiodd bedwar cyffur newydd sydd wedi cael eu datblygu mewn treialon meddygol.