Anrhydeddu dyn gafodd ei saethu mewn ymosodiad terfysgol

Mathew James and Saera Wilson Image copyright Mathew James Fund/Facebook
Image caption Mathew James a Saera Wilson yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad

Mae dyn 30 oed o Bontypridd gafodd ei saethu yn ystod ymosodiad terfysgol yn Tunisia i dderbyn anrhydedd arbennig.

Roedd Mathew James ar ei wyliau pan gafodd ei saethu dair gwaith wrth geisio amddiffyn ei ddyweddi Saera Wilson yn yr ymosodiad ar draeth yn Sousse ym Mehefin 2015.

Bydd Mr James yn derbyn Medal Achub Bywyd arian gan elusen St John Cymru-Wales am ei "weithred o ddewrder".

Fe fydd yn derbyn y fedal mewn seremoni yng Nghadeirlan Llandaf, Caerdydd, ym Mehefin.

Dywedodd Keith Dunn, prif weithredwr St John Cymru: "Mae hwn yn anrhydedd prin a mawreddog. Mae Mathew wedi dangos hunan reolaeth ac ymwybyddiaeth o'i amgylchiadau o dan amodau anodd iawn.

"Mae'n llawn haeddu'r gydnabyddiaeth, gyda'i weithredodd yn fwy na fyddai unrhyw un yn ei ddisgwyl."

Straeon perthnasol