Y Gyllideb: Beth sydd 'na i Gymru?

canghellor

Wrth gyhoeddi ei wythfed gyllideb, dywedodd George Osborne ddydd Mercher y bydd tollau pontydd Hafren yn cael eu haneru yn 2018.

Ar hyn o bryd mae'n costio £6.60 i groesi mewn car ac roedd y pris i fod i ostwng i £5.40. Ond nawr mae disgwyl i'r doll ddod lawr i £3.30.

Dywedodd Mr Osborne ei fod wedi gwrando ar bryderon Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru.

Meddai: "Er mwyn lleihau costau i fusnesau a theuluoedd yng Nghymru a De Orllewin Lloegr bydd y llywodraeth yn haneru tollau Pontydd Hafren, unwaith bod y Pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, yn ddibynnol ar ymgynghoriad cyhoeddus.

"Ochr yn ochr â hyn, bydd y llywodraeth yn adolygu'r achos dros gyflwyno tollau electronig yn unig er mwyn cadw'r traffig i symud."

Yn ogystal â manylu ar Fargen Ddinesig Caerdydd, gwerth £1.2 biliwn, cyhoeddodd Mr Osborne y bydd 'na doriadau treth ar gyfer sefydlu ardal fentergarwch ym Mhort Talbot, a hynny yn sgil cyhoeddiad diweddar am golledion swyddi yng ngwaith dur Tata yn y dre'.

Datganoli

Cadarnhaodd y Canghellor fod y llywodraeth yn bwrw 'mlaen gyda chytundeb Dydd Gŵyl Dewi i Gymru a'u bod wedi ymrwymo i ddarparu Cyfraddau Cymreig ar gyfer Treth Incwm, ynghyd â datganoli rhagor o rymoedd, gan gynnwys ym meysydd ynni a thrafnidiaeth.

Ychwanegodd: "Mae'r gyllideb hon yn agor y drws ar gyfer cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru i helpu i gryfhau'r economi a manteisio ar y cysylltiad gyda Phwerdy'r Gogledd.

"Bydd y llywodraeth yma'n edrych ar lywodraeth nesa' Cymru i ddatganoli pwerau a buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gytundeb yn y dyfodol."

Ariannu elusen

Daeth cymeradwyo i gynllun HS3 rhwng Manceinion a Leeds, ynghyd â chynllun Crossrail 2 i gysylltu gogledd a de Llundain. Gallai hynny i gyd olygu mwy o arian i Gymru yn sgil Fformiwla Barnett.

Cyhoeddodd Mr Osborne hefyd y bydd 'na archwiliad i ystyried cryfderau de ddwyrain Cymru ym maes ymchwil, ac adnabod unrhyw le i fanteisio'n fyd-eang.

Roedd 'na newydd am gefnogaeth i gyn-filwyr Cymru, wrth i'r Canghellor gyhoeddi y bydd £500,000 mewn dirwyon bancio yn cael eu rhoi i gorff CAIS Cymru i ddatblygu a darparu cefnogaeth arbenigol i 800 o gyn-filwyr yng Nghymru.

Yng ngrombil llyfr coch Mr Osborne, roedd 'na hefyd £27,000 wedi'i addo i amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy rhwng 2017-18 a 2019-20. Roedd pryderon am ddyfodol yr amgueddfa wedi i Gyngor Gwynedd dorri ei chyllideb.

Dadansoddiad ein Gohebydd Seneddol, Elliw Gwawr:

Dyma gyllideb fydd yn effeithio ar nifer fawr ohonom, drwy'r newidiadau i dreth incwm, rhewi toll tanwydd neu gymorth i gynilo.

Ond y pennawd mawr i Gymru yw torri tollau pontyddHafren. Fe fydd y gostyngiad i £3.30 yn sicr ogael ei groesawu gan unigolion a busnesau sy'n defnyddio'r bont yn rheolaidd.

Mae gan Blaid Cymru reswm i ddathlu (gyda gwydraid o ddŵr dwi'n siwr) wedi i'r Canghellor gyhoeddi toll ar ddiodydd melys.

Dyma bolisi gafodd ei wfftio gan Lafur a'r Ceidwawdyr pan gafodd ei gyhoeddi gan Blaid Cymru ddwy flynedd yn ôl. Er, mae yna ddigon o gwyno wedi bod heddiw gan aelodau Ceidwadol.

Un newid sydd wedi cael ei groesawu gan Geidwadwyr Cymru yw'r newid i gyfraddau busnes, fydd yn golygu bod miloedd o fusnesau bach yn talu dim treth busnes o gwbl.

Ond mae'r mater yma wedi'i ddatganoli, a'r cwestiwn ganddyn nhw yw a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno newidiadau tebyg hefyd?

Ymateb

Image caption Roedd Stephen Crabb i'w weld yn bles gydag araith y Canghellor

Wedi'r gyllideb ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb:

"Mae'n dangos maint uchelgais y llywodraeth yma ar gyfer Cymru. Mae'r cytundeb ar gyfer twf yn y gogledd a'r de, cefnogaeth gref i fusnesau a golwg newydd ar wyddoniaeth ac arloesedd i gyd yn don o optimistiaeth ar gyfer Cymru gyfan.

"Er gwaetha'r heriau byd eang, mae gennym fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag erioed o'r blaen ac rwy'n hyderus y gall Cymru wrthsefyll y storm sydd o'n blaenau."

Ond yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt: "Dyma'r drydedd gyllideb mewn 10 mis. Mae cynlluniau gafodd eu cyhoeddi fis Tachwedd wedi'u hadolygu'n barod. Dyw'r ymdriniaeth anhrefnus yma, sy'n cychwyn a stopio am yn ail ddim yn help i ni o ran trefnu ein Cyllideb ein hunain, nag i fusnesau sydd angen cysondeb yn hytrach na newid cyson."

Wedi i Mr Osborne gyhoeddi y byddai holl ysgolion Lloegr yn cael eu gwneud yn ysgolion academi (yn rhydd o ofal awdurdodau lleol) erbyn 2020, sut effaith gaiff hynny ar y system addysg yng Nghymru?

Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg, Bethan Lewis:

"Does 'na ddim ysgolion academi yng Nghymru a dydy'r penderfyniad i ymestyn y model ar draws Lloegr ddim yn mynd i newid barn Llywodraeth Cymru.

Wrth i'r Canghellor George Osborne wneud y cyhoeddiad yn ystod ei gyllideb, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru Huw Lewis nad oedd e am gyflwyno "anrhefn a gwastraff" ysgolion academi yng Nghymru.

Cynghorau sy'n ariannu a goruchwylio ysgolion yr ochr yma i Glawdd Offa ond fe fydd eu rôl wrth ddarparu addysg yn Lloegr yn cael ei ddileu.

Mae gan benaethiaid ysgolion academi ryddid i amrywio'r ddarpariaeth yn eu hysgolion, i osod rheolau mynediad i'w hysgol ac i amrywio cyflogau athrawon.

Ar hyn o bryd mae 'na drefn i Gymru a Lloegr ar gyfer cyflogau ac amodau gwaith athrawon ond os yw pob ysgol yn Lloegr â rhyddid dros gyflogau mae 'na gwestiynau dros barhad y drefn yna.

A hynny hefyd wrth i'r momentwm dros ddatganoli cyfrifoldebau dros gyflogau athrawon godi stem."

Straeon perthnasol