Gwrthdrawiad A470: Dyn lleol wedi marw

gwrthdrawiad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A470 ger Llanidloes fore dydd Mawrth.

Fe darodd Peugeot 207 arian a lori DAF ddu yn erbyn ei gilydd tua 06:40.

Bu farw gyrrwr y Peugeot yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai David Lloyd, dyn 19 oed o Langurig, oedd y dyn fu farw yn y digwyddiad.

Bu'r ffordd ar gau a'r trafffig yn cael ei ddargyfeirio am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.