'Ymosodiad rhyw': Dyn i wynebu ail achos

Newport Crown Court Image copyright Jaggery/Geograph
Image caption Penderfynodd barnwr yn Llys y Goron Casnewydd y bydd Mr Alahmadi yn wynebu achos arall ar yr un cyhuddiad.

Bydd dyn sydd wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw ar fyfyrwraig yng Nghaerdydd yn wynebu achos llys o'r newydd ym mis Gorffennaf.

Cafodd Thalid Alahmadi, 23, sydd hefyd yn fyfyriwr, ei gyhuddo o ymosod ar y ddynes 19 oed mewn parc ar 24 Medi, 2015.

Fe wadodd y cyhuddiad a chafodd achos ei gynnal yn gynharach y mis hwn.

Cafodd y rheithgor eu rhyddhau o'u dyletswyddau ar ôl methu a dod i benderfyniad.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, penderfynodd y barnwr y byddai Mr Alahmadi yn wynebu achos arall ar yr un cyhuddiad ar 18 Gorffennaf.

Cafodd Mr Alahmadi ei ryddhau a'r fechnïaeth.