"Troi'r dŵr i'n melin ein hunain"

Meleri Davies Image copyright Ynni Ogwen
Image caption Meleri Davies

Ar hyn o bryd mae cyfle i chi fod yn gyd-berchennog ar orsaf gynhyrchu trydan.

Mae Cynllun Ynni Ogwen yn gwerthu cyfranddaliadau er mwyn codi arian i adeiladu tyrbin dŵr ar yr afon Ogwen. Ond pa fanteision sydd i gymunedau gynhyrchu trydan yn lleol gan ddefnyddio daearyddiaeth a natur?


"'Dyn ni'n cynnig cyfrannau i roi ymdeimlad o berchnogaeth leol dros y cynllun" meddai Meleri Davies, un o gyfarwyddwyr Ynni Ogwen.

"Er mwyn rhoi'r cynllun ar waith 'dyn ni angen dros £500,000, ond er mwyn i'r cynllun weld golau dydd 'dyn ni angen o leia' £160,000 trwy werthu cyfrannau i'r gymuned. Gawn ni fenthyciad banc ar gyfer y gweddill ac mae hynny mewn llaw.

"Mae'r glaw yma'n disgyn ar ein pennau ni, mae gynnon ni afon rymus, mae'r holl beth yn deillio o gymuned yn trio cymryd rheolaeth dros ei dyfodol trwy ddefnyddio adnoddau naturiol a throi'r dŵr i'n melin ein hunain."

Mae Sioned Haf o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymchwilio i bosibiliadau cynlluniau ynni cymunedol:

"Os 'dych chi'n ystyried bod pob cymuned ddaearyddol yn ceisio cymryd cyfrifoldeb dros gynhyrchu a chyflenwi ynni, mae 'na botensial realistig iddyn nhw fod yn gyflenwyr ynni sylweddol yn y dyfodol.

"Bydd hynny yn ddibynnol ar gyfuniad o gynhyrchu a dosbarthu ynni yn lleol, technoleg newydd er mwyn gallu storio ynni a rheoli ei ddefnydd yn effeithlon."

Image caption Dyw'r syniad o gynhyrchu ynni gan ddefnyddio dŵr ddim yn un newydd

"Mae 'na rwystrau niferus. Dyw hi ddim yn hawdd cael hawl cynllunio a dydy'r hen dechnoleg sy'n cael ei defnyddio gan y grid cenedlaethol ddim yn addas. Mae hi'n iawn i gludo trydan o bwerdai canol ond dyw hi ddim mor hawdd i'w gludo o glytwaith o brosiectau cymunedol.

"Mae'r toriadau i'r FITs ('feed in tariffs', sef y cymhorthdal mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi i gynlluniau adnewyddol) wedi rhoi straen ariannol ar ambell i brosiect a does 'na ddim unrhyw gymhelliad gan y cwmnïoedd ynni mawr i weld newid yn y system bresennol."

Nid mater bach yw cael prosiect ynni cymunedol ar fynd felly, ac yn sicr mae'r rhwystrau yn golygu nad oes 'na sicrwydd o lwyddiant. Fe gafodd cynllun i adeiladu gorsaf ynni dŵr ar afon Conwy ei wrthod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddechrau mis Mawrth oherwydd pryder y byddai'n niweidio'r amgylchedd.

Ond yn ôl Meleri Davies mae Ynni Ogwen wedi sicrhau caniatâd gan yr holl fudiadau cadwriaethol a chynllunio:

"Mi fyddan ni'n cynhyrchu 500,000kWh y flwyddyn, a 'dyn ni'n edrych i dreialu cynllun cyflenwi yn lleol. Y gobaith ydi y bydd 100 o gartrefi yn ardal Bethesda yn rhan o'r cynllun hwnnw ac y gallwn ni gyflenwi trydan hydro lleol i bobl leol am bris gostyngol.

"Mae pawb ar eu hennill. Mae'r gymuned yn elwa, mae'r amgylchedd yn elwa, mae'n cyfranddalwyr lleol ni yn mynd i gael llôg blynyddol ar eu buddsoddiad felly mae'r prês yn aros yn lleol.

"Gobeithio, yn y pen draw, y bydd cyfran o'r trydan yn aros yn lleol."

Ond nid pawb yn y gymuned sydd o blaid y cynllun. Mae Gareth Evans, sy'n byw ym Methesda, yn poeni am effaith y cynllun ar afon Ogwen ac mae wedi cyhoeddi datganiad ar ei dudalen Facebook.

"Ar yr olwg gyntaf mae cynlluniau hydro bach o'r fath yn swnio'n wych a byddai neb call yn dadlau yn erbyn yr angen am greu ynni gwyrdd glan, ond ai cynlluniau hydro graddfa bychan yw'r ateb?

"Mae maint yr ynni a gynhyrchir yn gwbl allweddol wrth benderfynu a yw'r cynllun yn gwneud mwy o ddrwg nac o ddaioni. Y mwyaf o ynni a gynhyrchir, yna'r mwyaf tebygol yw y gellir cyfiawnhau'r gost amgylcheddol o'i gynhyrchu, a dim ond os gellir gwneud hyn y gellir ei alw yn wirioneddol wyrdd.

"Honnir bydd y cynllun yn cynhyrchu tua 500,000 KW yr awr, ond, beth am y cyfnodau pan fydd yr afon yn rhy isel i droi'r tyrbein? Hyd yn oed os mai cyfartaledd blynyddol ydi'r amcangyfrif, mae o'n parhau i fod yn swm cymharol fychan o ynni o gymharu â'r niwed amgylcheddol.

"Braf byddai gwybod faint o ynni bydd cynllun Ynni Ogwen yn ei gynhyrchu mewn termau go iawn - digon ar gyfer cant o dai efallai? Mae gen i fy amheuon.

"Mae ecoleg yr afon yn fregus ac mae sawl bygythiad amlwg i'r ecoleg hwnnw hyd y gwelaf i gan gynnwys llygredd - fe newidwyd lliw yr Ogwen am ddyddiau ar y tro pan adeiladwyd cynllun tebyg ar afon Caseg, atalfeydd - bwriedir adeiladu gored (weir) a thynnu dwr allan (extraction)."

Ond mae Meleri yn gobeithio na fydd newidiadau diweddar yng nghynlluniau ynni Llywodraeth San Steffan yn rhwystro'r cynllun uchelgeisiol yn Nyffryn Ogwen rhag cael ei wireddu:

"Y prif rwystr inni oedd toriadau i'r FITs. Mae'r rheiny wedi cael eu slashio gymaint rŵan, mae bron a bod yn gwneud cynlluniau fel hyn yn anymarferol. Ar ben hynny, mae'r llywodraeth hefyd wedi cael gwared â'r manteision treth i gynlluniau ynni adnewyddol.

"'Dan ni jyst yn gorfod esblygu a datblygu. Mae'n rhoi gwerth ychwanegol i'r hyn 'dan ni'n ei 'neud. Mae cynlluniau fel hyn yn trio helpu i leihau tlodi tanwydd a lleihau costau byw pobl leol, ac mae hwnna yn werthfawr iawn."

Hefyd ar y BBC