Arweinydd Cyngor: Dim pleidlais diffyg hyder

Cyngor Image copyright Meirion
Image caption Pencadlys Cyngor Conwy

Penderfynodd cynghorwyr Conwy i beidio â chynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn yr arweinydd Dilwyn Roberts.

Roedd y bleidlais i fod i gael ei chynnal ddydd Gwener mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn.

Ond yn dilyn trafodaethau drwy fore Gwener penderfynodd cynghorwyr na fyddai'r bleidlais yn cael ei chynnal wedi'r cwbl.

Mae'r Cynghorydd Roberts, o Blaid Cymru, wedi arwain y cyngor ers 2008, ac mae'n cynrychioli clymblaid o gynghorwyr annibynnol, cynghorwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe wnaeth nifer fach o gynghorwyr annibynnol leisio eu pryderon yn ddiweddar am y ffordd y cafodd cabinet y cyngor ei ad-drefnu.