Lerpwl yn ymchwilio i drydariad Cymro

Jordan Williams Image copyright FAW

Mae clwb pêl-droed Lerpwl yn ymchwilio i honiadau bod un o'u chwaraewyr - y Cymro Jordan Williams - wedi trydar neges yn gwawdio trychineb Munich wedi'r gêm yn erbyn Manchester United yng Nghynghrair Europa nos Iau.

Fe gafodd neges ei thrydar o gyfrif Williams, 20 oed, yn ymateb i fideo o gefnogwyr Lerpwl yn dathlu buddugoliaeth, oedd yn cynnwys emoji o awyren a phâr o ddwylo'n cymeradwyo.

Roedd nifer o ddefnyddwyr eraill Twitter yn dehongli hynny fel gwawdio trychineb Munich. Yn 1958 bu farw 23 o bobl gan gynnwys wyth o chwaraewyr United mewn damwain awyren wrth adael Munich.

Wedi trychineb Hillsborough, mae'r ddau glwb wedi cael eu cyhuddo o wawdio'i gilydd, ac roedd awyrgylch bigog yn Old Trafford nos Iau. Roedd baner wedi ei gosod ar bont dros yr M602 yn Salford gyda'r gair 'Murderers' a dyddiad trychineb Hillsborough arni.

Fe gafodd y trydariad gan Williams ei ddileu bron yn syth gyda'r chwaraewr yn dweud bod rhywun wedi hacio'i gyfrif. Fe wnaeth ymddiheuro gan ddweud na fyddai byth wedi cyhoeddi'r fath neges.

Ers hynny mae'r cyfrif hefyd wedi cael ei ddileu.

Yn ystod y gêm bu ychydig o ymladd rhwng cefnogwyr y ddau dîm pan lwyddodd rhai o gefnogwyr Lerpwl fynd i ran o'r eisteddle oedd i fod ar gyfer cefnogwyr cartref. Mae UEFA eisoes wedi cyhuddo'r ddau glwb a dorri nifer o reolau.