Canfod corff bachgen ger clogwyni

Dale Point Image copyright David Smith
Image caption Ardal Dale Point ger Hwlffordd, Sir Benfro

Mae corff bachgen 16 oed wedi cael ei ganfod ar waelod clogwyni yn Sir Benfro.

Roedd Patrick (Paddy) Dear ar drip daearyddiaeth gyda'i ysgol - Campion School - yn Hornchurch, Essex. Roedd ei athrawon wedi dweud wrth yr heddlu ei fod ar goll.

Roedd y bachgen yn rhan o griw oedd yn ymweld â chanolfan astudio Dale Point yn Hwlffordd.

Mae prifathro'i ysgol Keith Williams wedi rhoi teyrnged iddo ar wefan yr ysgol gan ddweud:

"Roedd Paddy yn ddyn ifanc cyfeillgar a phoblogaidd oedd yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol.

"Rydym yn gweddïo dros ei deulu a'i ffrindiau wedi'r newyddion yma. Mae'r ysgol yn cynnig cwnsela ac arweiniad i'w ffrindiau."

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gadarnhau eu bod wedi dod o hyd i'r corff am 01:00 fore Gwener ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.