Cymru dan 20 yn ennill y Gamp Lawn wrth guro'r Eidal

u20

Mae tîm Cymru dan 20 wedi ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth dros Yr Eidal.

Wedi hanner cyntaf agos, fe wnaeth Gymru fanteisio ar gerdyn melyn i Daniele Rimpelli yn yr ail hanner.

Daeth y ceisiau gan Harrison Keddie, Shaun Evans a Joe Thomas wrth i Gymru ddangos eu bod yn rhy gryf i amddiffyn yr Eidal.

Daeth 15 o bwyntiau hefyd o gicio Dan Jones.

Y sgôr terfynol oedd 35-6 ym Mharc Eirias.

Image copyright Huw Evans agency
Image copyright Huw Evans agency