Cyflog byw: Effaith 'anghymesur' ar Gymru

Sara Jones
Image caption Mae Sara Jones, pennaeth y Consortiwm Masnach Cymreig, yn dweud bod ardaloedd ag "amgylchedd economaidd mwy ansefydlog" yn fwy tebygol o golli swyddi

Mi fydd y cyflog byw newydd yn taro busnesau Cymreig mewn ffordd "anghymesur", yn ôl cynrychiolydd y Consortiwm Masnach Prydeinig yng Nghymru.

Mae'r newidiadau, fydd mewn grym o 1 Ebrill, yn gosod isafswm cyflog o £7.20 yr awr i weithwyr sy'n 25 oed neu'n hŷn.

Ar hyn o bryd, mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr dros 21 yn £6.70.

Ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Sara Jones, pennaeth y Consortiwm Masnach Cymreig, y byddai'r effaith ar gyflogaeth "lawer mwy na mae rhai'n ei ragweld".

Siopau'n cau

Fe ddywedodd y Consortiwm yn ddiweddar y gallai 900,000 o swyddi fod yn y fantol yn sgil pwysau ar y diwydiant, gan gynnwys y cyflog byw newydd.

Yn ôl Ms Jones, mae swyddi'n fwy tebygol o gael eu colli "mewn ardaloedd fel Cymru, ble mae ganddon ni amgylchedd economaidd mwy ansefydlog."

"Rydym ni'n gweld siopau'n cau yn amlach yng Nghymru, a mwy o gwymp yn niferoedd y cwmseriaid," meddai.

Mae Ms Jones wedi galw ar yr awdurdodau i weithredu. "Rwy'n credu ei bod hi'n allweddol ein bod ni'n gweithredu nawr i atal colledion swyddi pellach ac i sicrhau bod gennym ni amgylchedd sy'n annog buddsoddiad.

"Felly dyma'r amser inni newid pethau fel trethi busnes - mae gan Lywodraeth Cymru rym i wneud hynny, ac mi fydden ni'n annog y llywodraeth nesaf yn y Cynulliad i feddwl yn galed am ddiwygiad radical o'r polisi ar drethi busnes."

Image caption Mae Colin Macdonald yn poeni am effaith y cynnydd mewn cyflogau ar ei fusnes

Un sy'n ofni effaith y cyflog byw yw Colin Macdonald, rheolwr-gyfarwyddwr Parson's Pickles. Dywedodd wrth y rhaglen y byddai'r newidiadau'n golygu cynnydd o £20,000 yng ngwariant y cwmni ar gyflogau.

"Nid y cynnydd i £7.20 yw'r unig gynnydd. Yn amlwg, mae 'na bobl sydd â mwy o gyfrifoldeb ac sy'n ennill ychydig bach mwy o gyflog, ac mae rhaid inni godi eu cyflogau nhw pro rata hefyd."

Mae disgwyl cynnydd pellach yn y cyflog byw yn y blynyddoedd i ddod, a dywedodd Mr Macdonald bod ei gwmni'n edrych ar ffyrdd o wneud elfennau o'u proses cynhyrchu yn awtomatig.

"Os fyddai cyflogau'n cyrraedd tua £9 yr awr mi fyddai'n anfforddiadwy inni, felly mi fyddai'n effeithio ar swyddi," meddai.

'Cymdeithas cyflogau uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Prydain yn haeddu codiad cyflog a bydd ein Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn rhoi hwb uniongyrchol i dros filiwn o bobl.

"I helpu gyda'r newid rydym ni'n lleihau trethi a chyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Cenedlaethol dros £3bn y flwyddyn tan 2020 drwy newidiadau i'r Lwfans Cyflogaeth a drwy leihau cyfradd Treth Corfforaethol i 17%. Bydd dros filiwn o fusnesau'n elwa o'r mesurau hyn.

"Mae'r llywodraeth eisiau gweld cymdeithas cyflogau uchel, trethi isel, a llai o fudd-daliadau. Dyma'r amser i sicrhau y gallai gweithwyr sydd ar gyflogau isel gael cyfran mwy o dwf economaidd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni'n cynnig cefnogaeth benodol er mwyn lleihau trethi busnes ar gyfer busnesau bach yn arbennig. Rydym ni hefyd yn parhau i gynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth ariannol i fusnesau bach a mawr, sy'n eu helpu i fod yn gystadleuol a thyfu ac yn eu rhoi mewn safle cryfach i dalu cyflog byw i'w staff."

Mae Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 11:00 dydd Sul 20 Mawrth