Tynnu enwau dros 50 o droseddwyr rhyw oddi ar y gofrestr

Carchar
Image caption Mae'n rhaid i droseddwyr fod wedi gadael y carchar ers 15 mlynedd er mwyn gwneud cais i gael tynnu eu manylion oddi ar y gofrestr troseddwyr rhyw

Mae dros 50 o droseddwyr wedi llwyddo i dynnu eu manylion oddi ar y gofrestr troseddwyr rhyw yng Nghymru, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law'r BBC.

Ers 2012, mae 55 o unigolion wedi cael yr hawl i beidio rhannu eu gwybodaeth bersonol gyda'r heddlu.

Mae'r ffigyrau'n amrywio'n fawr, gyda Heddlu Gogledd Cymru'n cymeradwyo 90% o'r ceisiadau gafodd eu gyrru atyn nhw tra bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwrthod pob un o'r ceisiadau y derbynion nhw.

Mae troseddwyr wedi cael yr hawl i wneud cais i dynnu'u henw oddi ar y gofrestr ers 2012, yn dilyn dyfarniad yn y Goruchel Lys ddwy flynedd ynghynt.

Fe ddywedodd y llys y dylai troseddwyr yng Nghymru a Lloegr - o dan gyfreithiau hawliau dynol - gael yr hawl i brofi eu bod wedi newid.

Mae'n rhaid i droseddwr fod wedi gadael y carchar ers 15 mlynedd er mwyn gallu apelio.

Nifer y ceisiadau yn ôl ardal

  • Heddlu Gogledd Cymru - 90% wedi'u cymeradwyo (20 cais, 18 wedi'u cymeradwyo)
  • Heddlu Gwent - 65% wedi'u cymeradwyo (31 cais, 20 wedi'u cymeradwyo)
  • Heddlu De Cymru - 57% wedi'u cymeradwyo (30 cais, 17 wedi'u cymeradwyo)
  • Heddlu Dyfed-Powys - 0% wedi'u cymeradwyo (16 cais, 0 wedi'u cymeradwyo)

Ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae 679 cais o'r fath wedi bod yn llwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod uchel swyddog yn adolygu pob cais ac yn pwyso a mesur y risg i'r cyhoedd a hawliau'r troseddwr.

Ychwanegodd: "Mae ein dull ni o adolygu'r ceisiadau yn cyd-fynd ag ysbryd y newidiadau cyfreithiol ac yn ddull cymesur."

Nôl yn 2012, pan gafodd y gyfraith ei newid, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May: "Fe fydden ni'n gosod y gofynion uchaf posib ar gyfer y ceisiadau hyn. Rhaid i ddiogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf."

Ond dywedodd David Hines o Gymdeithas Genedlaethol y Dioddefwyr ei bod hi'n "anhygoel" na fyddai rhai pobl sydd wedi treisio a cham-drin plant yn gorfod cofrestru.

"Dwi'n credu bydd y cyhoedd wedi'u cythruddo. Dylai'r bobl hyn aros ar y gofrestr," meddai.

"Nid yw hyn yn amddiffyn y cyhoedd - mae gan y cyhoedd hawl i wybod am bobl sydd wedi cyflawni troseddau erchyll fel y rhain."