Gareth Bale yn creu hanes yn La Liga

Gareth Bale Image copyright Getty Images

Mae Gareth Bale wedi creu hanes ar ôl sgorio ym muddugoliaeth Real Madrid yn erbyn Sevilla nos Sul, gan olygu mai ef yw'r Prydeiniwr sydd wedi sgorio mwyaf o goliau erioed yng nghynghrair y La Liga yn Sbaen.

Llwyddodd y Cymro i sgorio ei 43fed gôl i'r tîm o'r brifddinas, wrth i Real Madrid roi crasfa 4-0 i'w gwrthwynebwyr yn y Bernabeu.

Mae hyn yn golygu fod Bale wedi curo record y Prydeiniwr diwethaf i sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn y La Liga, sef Gary Lineker.

Fe wnaeth y Cymro daro'r postyn ddwywaith a chael gôl wedi'i gwrthod gan y dyfarnwr yn ystod y gêm nos Sul, cyn sgorio.

Mae Real Madrid yn y trydydd safle yn y gynghrair, gyda 10 pwynt yn eu gwahanu o Barcelona, sydd ar y brig.