Gwrthdrawiad Sir Fynwy: Arestio dyn o achosi marwolaeth

Heddlu

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i ddynes 50 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r B4293 ger Llanisien am 11:45 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar.

Dywedodd y llu bod dyn 46 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus dan ddylanwad alcohol.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.