Refferendwm yr UE: Beth sydd angen gwybod?

Beth sy'n digwydd?

Mae Prif Weinidog y DU, David Cameron, wedi cyhoeddi y bydd refferendwm yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Mehefin i benderfynu a ddylai Prydain aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ai peidio. Nod yr erthygl hon yw rhoi canllaw syml i'r refferendwm.

Beth yw refferendwm?

Yn syml, pleidlais i bawb (neu bron pawb) sydd mewn oed pleidleisio, gyda phobl fel arfer yn rhoi ateb "Ie" neu "Na" i gwestiwn penodol. Pa bynnag ymgyrch fydd yn cael mwy na hanner yr holl bleidleisiau fydd yn fuddugol.

Beth yw'r Undeb Ewropeaidd?

Partneriaeth economaidd a gwleidyddol yw'r Undeb Ewropeaidd - neu'r UE - sy'n cynnwys 28 gwlad Ewropeaidd (cliciwch yma am y rhestr gyflawn). Fe ddechreuodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i feithrin cydweithrediad economaidd, gyda'r syniad y byddai gwledydd sy'n masnachu gyda'i gilydd yn llai tebygol fynd i ryfel. Erbyn hyn mae wedi tyfu'n "farchnad sengl" sy'n galluogi symud cynnyrch a phobl o gwmpas gwledydd sy'n aelodau'r Undeb fel pe bai'n un wlad. Mae 19 aelod o'r Undeb yn defnyddio'r Ewro, sef arian yr Undeb. Mae gan yr Undeb ei senedd ei hun, ac mae'n pennu rheolau mewn ystod eang o feysydd - gan gynnwys yr amgylchedd, trafnidiaeth, hawliau cwsmeriaid a hyd yn oed pethau fel cost defnyddio ffonau symudol.

Beth fydd cwestiwn y refferendwm?

Ym mhob refferendwm, mae'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn hollbwysig. Y Comisiwn Etholiadol gynigiodd eiriad y cwestiwn, sydd wedi cael ei dderbyn gan Aelodau Seneddol:

"A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?"

Y dewis i bleidleiswyr fydd 'Aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd' a 'Gadael yr Undeb Ewropeaidd'.

Beth mae 'Brexit' yn ei olygu?

Term sydd wedi cael llawer o ddefnydd gan y wasg yn ddiweddar fel ffordd fer a hawdd o ddweud Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd - gan uno'r geiriau Britain ac exit. Yn yr un modd cafodd ymadawiad posib Gwlad Groeg o'r UE ei alw'n Grexit yn y gorffennol.

Pwy fydd yn gallu pleidleisio?

Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a'r Gymanwlad sydd dros 18 oed ac sy'n byw ym Mhrydain, gan gynnwys dinasyddion Prydeinig sydd wedi ymddangos ar y gofrestr etholiadol ym Mhrydain dros y 15 mlynedd diwethaf, ond sydd bellach yn byw dramor. Yn wahanol i etholiad cyffredinol, mi fydd aelodau Tŷ'r Arglwyddi a dinasyddion y Gymanwlad yn Gibraltar hefyd yn gymwys. Heblaw am Iwerddon, Malta a Chyprus- ni fydd gan ddinasyddion o wledydd Ewropeaidd yr hawl i bleidleisio.

Sut fydd modd pleidleisio?

Mi fydd y broses yn debyg i etholiadau eraill. Yn gyntaf, os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio mi fyddwch chi'n derbyn cerdyn trwy'r post sy'n dangos pryd mae'r bleidlais ac i ble dylech chi fynd i fwrw eich pleidlais. Ar 23 Mehefin, pan fyddwch yn mynd i'r orsaf bleidleisio mi fyddwch yn derbyn darn o bapur gyda'r cwestiwn refferendwm arno. Byddwch chi wedyn yn mynd mewn i flwch, sydd â phensil yna yn barod i chi gael marcio'r papur. Rhowch X yn y bocs sy'n adlewyrchu eich barn ac yna rhowch y papur yn y blwch pleidleisio. Gallwch hefyd ddewis pleidlais bost. Darllenwch fwy: Canllaw'r Comisiwn Etholiadol ar wneud cais am bleidlais bost.

Pam bod 'na refferendwm?

Fe wnaeth Prydain gynnal refferendwm ar y Gymuned Ewropeaidd Economaidd yn 1975, sef rhagflaenydd yr UE. Ond mae llawer o wleidyddion ac aelodau o'r cyhoedd wedi galw am refferendwm arall, gan ddadlau bod yr Undeb wedi newid llawer dros y 40 mlynedd diwethaf, gyda mwy a mwy o wledydd yn ymuno, a'r sefydliad yn ymestyn ei reolaeth dros fwy o agweddau ar fywydau pobl gyffredin. Yn wreiddiol roedd David Cameron wedi gwrthod y galwadau am refferendwm arall, ond yn 2013 fe newidiodd ei farn.

Pam bod rhai eisiau gadael yr UE?

Mae rhai pobl yn credu bod yr UE yn rhwystr i Brydain, bod yna ormod o reolau i fusnesau, a bod y tâl aelodaeth yn costio biliynau o bunnau'r flwyddyn heb gael rhyw lawer yn ôl. Mae nifer y mewnfudwyr i'r DU hefyd yn fater sy'n flaenoriaeth i'r rheiny sydd eisiau gadael, gan gynnwys rheoli nifer y bobl sy'n dod mewn i'r wlad i weithio. Un o brif egwyddorion yr UE yw bod dinasyddion yn cael "rhyddid i symud" o fewn yr Undeb, sy'n golygu nad oes rhaid cael fisa i fyw mewn gwlad sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Byddai gadael yr UE yn golygu bod gan Lywodraeth y DU reolaeth lwyr dros ei ffiniau unwaith yn rhagor, meddai'r ymgyrchwyr ar yr ochr hynny o'r ddadl.

Pam fod rhai eisiau aros yn rhan o'r UE?

Mae'r rhai sy'n cefnogi aros yn yr UE yn credu bod aelodaeth yn helpu economi Prydain - ei fod yn gwneud gwerthu nwyddau i wledydd Ewropeaidd eraill yn haws a bod mewnfudwyr i Brydain, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ifanc ac yn frwdfrydig i weithio, yn annog twf economaidd ac yn helpu i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Maen nhw hefyd o'r farn y gallai gadael yr UE effeithio ar statws Prydain yn rhyngwladol a bod y wlad yn fwy diogel fel rhan o'r Undeb.

Beth yw'r rheolau ymgyrchu?

Y Comisiwn Etholiadol sy'n sicrhau bod y refferendwm yn gystadleuaeth deg, ac yn dewis pwy fydd yn arwain yr ymgyrchoedd swyddogol ar gyfer y ddwy ochor. Mi fydd yr ymgyrchoedd swyddogol yn cael yr hawl i gael grant o £600,000, gyda'r uchafswm gwario terfynol yn £7m, darllediadau gwleidyddol, ymgyrch drwy'r post a mynediad i ystafelloedd cyfarfod am ddim. Bydd gan grwpiau eraill yr hawl i ymgyrchu hefyd, gydag uchafswm gwariant o £700,000, os ydyn nhw'n cofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd rhaid iddyn nhw nodi ffynhonnell unrhyw gyfraniad ariannol. Os nad ydyn nhw'n cofrestru gyda'r Comisiwn, dim ond £10,000 fydd ganddyn nhw'r hawl i'w wario. Mae rhestr o reolau ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pryd fydd yr ymgyrchu'n dechrau?

Mae'r ddadl wedi cychwyn yn barod. Ond mae cyfnod swyddogol yr ymgyrchu'n rhwng 15 Ebrill a 23 Mehefin. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn dynodi ymgyrchoedd swyddogol i gynrychioli dwy ochr y ddadl, fydd yn cael gwneud darllediadau ar y teledu ac yn cael cymorth gyda chostau ymgyrchu. Mae'n rhaid i'r Comisiwn wneud penderfyniad ar hynny cyn 14 Ebrill.

Pryd a sut fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi?

Bydd y cyfrif yn dechrau yn syth pan fydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 22:00 GMT nos Iau 23 Mehefin. Mae 382 o ganolfannau lleol ar draws Prydain. Bydd y canlyniadau lleol yn cael eu cyhoeddi wedi'r cyfrif, gyda 12 canolfan ranbarthol yn casglu'r wybodaeth ac yn cyhoeddi nifer y pleidleisiau i'r naill ochor a'r llall. Yna, bydd y prif swyddog sy'n gyfrifol am y cyfrif yn cyhoeddi'r canlyniad terfynol yn Neuadd y Dref, Manceinion.