Twf UKIP yng Nghymru

Logo UKIP

Mae twf UKIP yng Nghymru ers 1999 ers wedi bod yn hynod.

Wnaeth y blaid ddim sefyll yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn y flwyddyn honno.

Bryd hynny roedd y blaid yn gryf yn erbyn bodolaeth y sefydliad.

Yn yr etholiad cyffredinol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, 12,552 o bleidleisiau gafodd y blaid ar draws Cymru, dim ond 0.9%.

Ond wrth fynd ymlaen 14 mlynedd i'r haf diwethaf, roedd y blaid wedi codi i'r trydydd safle o ran poblogrwydd yng Nghymru, gan guro Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Sicrhaodd UKIP 204,330 pleidlais yn etholiad cyffredinol 2015 - 13.6%, gan ddod yn ail mewn chwe etholaeth.

Daeth hynny ar ôl llwyddiant y blaid yn etholiadau Ewrop yn 2014, ble y gorffenon nhw'n ail yng Nghymru, gyda Llafur ond yn eu curo o 4,349 pleidlais.

Ffrae fewnol

Ond dyw twf y blaid ddim wedi bod yn esmwyth.

Mae'r cyfnod cyn etholiad y Cynulliad eleni wedi gweld cryn ddadlau dros ddewis ymgeiswyr.

Yn wreiddiol roedd UKIP wedi bwriadu cael pwyllgor canolog i ddewis ymgeiswyr rhanbarthol (y rhai fydd â'r siawns orau o gael eu hethol).

Ond doedd hynny ddim yn plesio rhai o aelodau UKIP yng Nghymru.

Cafodd y dewis ei roi i'r aelodau yn y diwedd, ond dim ond wedi cryn feirniadaeth gan arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill.

Cafodd deiseb yn galw am ei ymddiswyddiad ei threfnu ym mis Chwefror, wedi honiadau iddo fethu dangos digon o arweiniad yn ystod y ffrae ymgeiswyr.

Roedd nifer yn teimlo fod ymgeiswyr nad oedd yn rhan o'r blaid yng Nghymru yn cael eu taflu mewn i frwydr ble allai UKIP fod â siawns dda.

Gadawodd Kevin Mahoney, cynghorydd ym Mro Morgannwg, y blaid fel protest yn erbyn y cyn ASau Ceidwadol Neil Hamilton a Mark Reckless, oedd yn gobeithio cael eu dewis.

Tu ôl i'r llenni, roedd Nigel Farage a Nathan Gill yn gryf yn erbyn dewis Mr Hamilton fel ymgeisydd.

Arweinydd

Roedd y ffrae hefyd wedi amlygu'r tensiynau ymhlith rhai aelodau yng Nghymru fod Mr Gill wedi cael ei benodi yn arweinydd yn hytrach na'i ethol.

Mae nawr yn debyg y bydd etholiad yn cael ei gynnal ar ôl 5 Mai i ddewis arweinydd.

Dyw'r twf yn y gefnogaeth i UKIP yng Nghymru ers 1999 ddim wedi dwyn ffrwyth eto o ran seddi.

Er bod Nathan Gill yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru, does gan y blaid yr un AS nag AC Cymreig.

A dim ond un cynrychiolydd sydd gan y blaid o fewn llywodraeth leol hefyd - sef Gethin James, a gafodd ei ethol fel aelod annibynnol yng Ngheredigion.

Oherwydd y system gynrychiolaeth gyfrannol o fewn y Cynulliad, mae gan UKIP nawr siawns dda o ennill seddi i adlewyrchu lefel y gefnogaeth.

Ond gydag un o flaenoriaethau UKIP - sef gadael yr UE - yn destun refferendwm ychydig wythnosau wedi etholiad y Cynulliad, mae'r sylw yn debygol o droi wedyn at gwestiynau am rôl grŵp o aelodau UKIP yn y Cynulliad.