Gemau cyfeillgar Cymru: Cyfle i greu argraff

Carwyn Jones a charfan Cymru
Image caption "Sgen ti dy 'sgidiau pêl-droed Carwyn?"

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn sesiwn ymarfer Cymru ddydd Mawrth yn llongyfarch y garfan am eu llwyddiant diweddar.

Lwcus nad oedd ganddo ei esgidiau pêl-droed 'efo fo neu mae'n bosib y byddai Chris Coleman wedi gofyn iddo chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon a'r Iwcrain.

Mae'r rhestr anafiadau yn un hirfaith. Tydi Gareth Bale, Aaron Ramsey, Dave Edwards, Ben Davies, Andy King, James Collins na Hal Robson-Kanu ar gael oherwydd anafiadau.

Ac fe chwaraeodd y saith ohonyn nhw ran allweddol yn yr ymgyrch ragbrofol.

Ond yn bersonol, dwi'n teimlo y gall yr holl anafiadau fod o gymorth i Chris Coleman a'i dîm hyfforddi cyn Euro 2016, oherwydd mae'r gemau hyn yn gyfle i chwaraewyr eraill greu argraff.

Petai'r gwaethaf yn digwydd a Gareth Bale yn dioddef anaf cyn neu'n ystod y bencampwriaeth yna mae Coleman angen gwybod pa opsiynau eraill sydd ar gael iddo sgorio'r goliau hollbwysig.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Sam Vokes wedi sgorio 10 gôl yn ei 14 gêm ddiwethaf i Burnely yn y Bencampwriaeth

Bale a Robson-Kanu oedd y dewis cyntaf yn y llinell flaen yn yr ymgyrch ragbrofol ond tydi'r un o'r ddau ar gael y tro yma.

Felly pwy fydd yn arwain y llinell flaen yn erbyn Gogledd Iwerddon?

Byddwn i wrth fy modd yn gweld Sam Vokes yn cael y cyfle. Mae o wedi sgorio 10 gôl yn ei 14 gêm ddiwethaf i Burnely yn y Bencampwriaeth.

Ac er nad ydi o wedi sgorio i Gaerdydd eto, mae Tom Lawrence wedi bod yn chwarae'n dda i'r Adar Gleision ers iddo ymuno â nhw ar fenthyg o Gaerlŷr ym mis Ionawr. Dwi'n meddwl y byddai'r ddau'n gallu cydweithio'n dda gyda'i gilydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Dim cytundeb newydd i Coleman eto, ond mae'r garfan yn awyddus i'w weld yn aros

Mae hi'n braf gweld George Williams, sydd ar fenthyg yn Gillingham o MK Dons, 'nôl yn y garfan ar ôl iddo wella o anaf difrifol. Er mai dim ond 20 oed ydi o mae o'n chwaraewr cyflym dros ben ac yn cynnig rhywbeth ar yr asgell.

Yn y gôl, mae Coleman wedi dweud y bydd golwr Lerpwl, Danny Ward yn ennill ei gap cyntaf. Fe greodd argraff pan dreuliodd gyfnod ar fenthyg efo Aberdeen yn gynharach yn y tymor.

Mae cytundeb Coleman yn dod i ben ar ôl Euro 2016 ac mae'r chwaraewyr i gyd yn awyddus i'w weld o'n aros. Mae o wedi cynnal trafodaethau efo Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ond hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi cytuno ar gytundeb newydd.

Yn dilyn y gwaith campus mae o wedi ei wneud ers cael ei benodi 'nôl yn 2012 mewn amgylchiadau hynod o drist, dwi'n siŵr hefyd bod y cefnogwyr i gyd yn gobeithio mai ef fydd wrth y llyw ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.