Gwrthdrawiad Sir Gâr: Cyhoeddi enw dynes fu farw

Heddlu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 39 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Fercher.

Bu farw Helen Davies, oedd o ardal Hendy, wedi'r digwyddiad ar yr A483 ger cylchfan Pont Abraham.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r gwrthdrawiad am tua 22:00.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod cyn agor yn oriau man y bore.

Straeon perthnasol