Dau wrthdrawiad difrifol yn cau ffyrdd ym Mhowys

Heddlu

Mae dau wrthdrawiad difrifol wedi cau dwy o brif ffyrdd Powys i'r ddau gyfeiriad ddydd Gwener.

Bu'r A470 ar gau am bron i chwe awr rhwng Rhaeadr Gwy a chylchfan Llangurig yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd am 11:45.

Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys bod y digwyddiad wedi effeithio ar yrwyr rhwng Llanfair ym Muallt a Llanidloes cyn i'r ffordd ailagor am tua 17:30.

Dywedodd y llu eu bod hefyd yn delio gyda gwrthdrawiad difrifol rhwng pum cerbyd ar yr A483 i'r gogledd o'r Trallwng.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio o amgylch y digwyddiad.