Plaid Cymru'n addo gwneud mwy i bobl ifanc

Helen Mary Jones Image copyright Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi addo na fyddai unrhyw berson ifanc yn cael eu "gadael ar ôl" mewn llywodraeth dan reolaeth y blaid.

Pe bai'r blaid yn fuddugol yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai, maen nhw'n dweud y byddant yn rhoi cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed sydd wedi bod yn ceisio dod o hyd i waith am fwy na phedwar mis.

Ar hyn o bryd, mae 65,000 o bobl rhwng 16-24 oed ddim mewn cyflogaeth, addysg neu dan hyfforddiant yng Nghymru.

Mae'r ffigwr yma yn cynnwys 84% o famau.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc Helen Mary Jones: "Byddwn yn gweithio i sicrhau nad yw'r un person ifanc yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl."

I'w helpu i gyflawni hyn, byddai'r blaid yn creu 50,000 o brentisiaethau newydd erbyn diwedd tymor nesaf y Cynulliad.