Ben Davies ar gael i Gymru

Ben Davies Image copyright Getty Images

Mae'r amddiffynnwr Ben Davies ar gael i Gymru ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Wcráin ddydd Llun.

Fe wnaeth cefnwr Spurs ddioddef anaf i'w ben yn y gêm yng Nghynghrair Europa yn erbyn Borussia Dortumnd ar 17 Mawrth.

Dywedodd Davies fod y gemau cyfeillgar yn hynod o bwysig, gan fod "chwaraewyr yn ceisio am lefydd yn y garfan fydd yn teithio i Ffrainc."

"Rwy'n meddwl fod rhai eisoes wedi gwneud argraff. Roedd yna berfformiadau da (ddydd Iau) a rhain ydi'r gemau lle mae'n rhaid i chi ddangos be allwch chi wneud.

"Fe fydd Wcráin yn brawf caled. Maen nhw'n dîm da."

Fe allai Tom Bradshaw, ymosodwr Walsall, ennill ei gap cyntaf yn erbyn Wcráin, ond bydd y chwaraewr Andrw Crofts yn dychwelyd i'w glwb Gillingham sy'n wynebu gêm oddi cartref yn erbyn Bury ddydd Llun.

Ar ôl Wcráin fe fydd Cymru yn chwarae Sweden ar 5 Mehefin, eu gêm olaf cyn wynebu Slofacia yn eu gêm agoriadol yn Euro 2016 chwe diwrnod yn ddiweddarach.