Gweilch 16-25 Scarlets

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dan Evans yn gwthio heibio Rob Evans

Fe wnaeth yr eilydd Aled Thomas ddod oddi ar y fainc i gyfrannu at fuddugoliaeth y Scarlets yn erbyn y Gweilch ar Stadiwm y Liberty.

Roedd y sgôr yn gyfartal 13-13, cyn i'r maswr gicio pedwar cic cosb yn y 18 munud olaf.

Aeth y Gweilch ar y blaen yn yr hanner cytnaf ar ôl i Josh Matavesi groesi'r llinell, cyn i DTH van der Merwe daro nôl i'r Scarlets.

Mae'r canlyniad yn cryfhau safle'r Scarlets sy'n drydydd yng nghynghrair Pro12.

Ond mae'r Gweilch yn safle rhif naw, ac mae'r canlyniad yn ergyd i'w gobeithion o orffen yr y chwech uchaf a sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Fe wnaeth Sam Davies gicio 11 pwynt i'r Gweilch