Frongoch: Seremoni i gofio 'prifysgol y chwyldro'

Cofeb yn y pentre', mewn Gaeleg, Cymraeg a Saesneg, sy'n nodi hanes y gwesyll
Image caption Cofeb yn y pentre', mewn Gaeleg, Cymraeg a Saesneg, sy'n nodi hanes y gwesyll

Bydd seremoni yn cael ei chynnal ym mhentre' Frongoch, ger Y Bala, ddydd Llun i gofio am wrthryfel Iwerddon 100 mlynedd yn ôl.

Yn ystod y Rhyfel Mawr fe wnaeth yr awdurdodau droi safle ar hen fragdy chwisgi yn y pentre' yn garchar rhyfel i wrthryfelwyr o Iwerddon.

Mae'r seremoni yn cyd-fynd â seremonïau ledled Iwerddon i gofio am y 450 a mwy a fu farw yn ystod brwydro rhwng gwrthryfelwyr a oedd yn ceisio annibyniaeth a milwyr Prydain yn Nulyn yn 1916.

Ar ôl i Brydain orchfygu'r gwrthryfelwyr, cafodd yr arweinwyr a'u cefnogwyr eu hanfon i'r gwersyll yng nghysgod mynyddoedd Meirion.

Image copyright Hulton Archive

'Prifysgol y chwyldro'

Er bod Prydain wedi llwyddo i orchfygu'r gwrthryfelwyr yn Nulyn, o fewn pum mlynedd i'r digwyddiad roedd gan Iwerddon lywodraeth annibynnol.

Roedd nifer o arweinwyr amlwg y Weriniaeth newydd wedi eu carcharu ym Mrongoch, a chafodd y safle ei adnabod ganddyn nhw fel Ollscoil na Réabhlóide, neu 'brifysgol y chwyldro'.

Ymhlith y carcharorion roedd Michael Collins, wnaeth arwain y gwrthryfel yn erbyn Prydain ar ôl 1916.

Ynghyd â sylfaenydd Sinn Féin Arthur Griffith, daeth Collins yn un o'r dynion i arwain trafodaethau yn Llundain yn 1921 i sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon.

Image caption Gwersyll Frongoch 1916

Dysgu am dactegau rhyfel

Fe wnaeth o leiaf 30 o ddynion gafodd eu carcharu ym Mrongoch ddychwelyd i Iwerddon a chael eu hethol i'r senedd newydd yn Nulyn.

Cafodd tua 1,800 o Wyddelod eu carcharu ym Mrongoch.

Cyn hynny roedd y safle yn gartref i garcharorion rhyfel o'r Almaen yn ystod blynyddoedd cyntaf y Rhyfel Mawr.

Yn ogystal â diddori eu hunain drwy chwarae gwahanol gampau fel pêl-droed Gaeleg, fe wnaeth y gwrthryfelwyr ym Mrongoch dreulio eu hamser yn y gwersyll i addysgu eu hunain ynglŷn â thactegau rhyfel.

Image copyright Getty Images
Image caption Michael Collins - llun ohono wedi iddo ddychwelyd o Frongoch

Canmlwyddiant

Dyn lleol o Frongoch sy'n helpu trefnu seremoni i gofio hanes y gwersyll yw Alwyn Jones, ffermwr sydd wedi ymddeol.

"Fe wnaethon nhw ddysgu am wahanol ffyrdd o ymladd milwyr Prydain, fe wnaethon nhw ddysgu bod ceisio dal gafael neu feddiannu adeiladau, fel digwyddodd yn Nulyn, ddim yn gweithio," meddai.

"Roedden nhw'n sôn ac yn dysgu am ryfel dull guerrilla - taro ac yna ffoi."

Ym mis Mehefin bydd seremoni arbennig i nodi 100 mlynedd ers i'r carcharorion cyntaf gyrraedd.

"Roedd nifer o'r rhai ddaeth i Frongoch yn chwyldroadwyr, ac fe wnaeth y profiad eu caledu a chryfhau eu daliadau," meddai Alwyn Jones.

"Yr hun a wnaeth oedd eu gwneud yn benderfynol o lwyddo."

Image caption Cefn adeiladau'r ddistyllfa yng ngwersyll Frongoch

'Uno'r gwrthryfelwyr'

Ar 21 Rhagfyr 1916, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi amnest i'r rhai oedd wedi eu carcharu ym Mrongoch.

Fe wnaeth torfeydd anferth ymgynnull yn Nulyn i groesawu'r dynion yn ôl i Iwerddon cyn y Nadolig.

Dywedodd un o arweinwyr y Cenedlaetholwyr ar y pryd, yr aelod seneddol Timothy Healy, fod Frongoch wedi helpu uno'r gwrthryfelwyr.

"Ar ôl y gwrthryfel, yn hytrach na bod dynion yn cael eu gadael ar wasgar yn eu tyddynnod a ffermydd bychain - roedd yn lle i gasglu pawb at ei gilydd, lle'r oedden nhw'n cael rhannu syniadau."

Image caption Frongoch heddiw

Yn 1918 fe wnaeth Sinn Féin sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad Cyffredinol yn Iwerddon.

Yn Ionawr 1919 fe wnaethant gyhoeddi eu bod yn sefydlu llywodraeth eu hunain, gan ddechrau cyfnod o ryfel cartref.

Fe arweiniodd hyn yn y pendraw i gytundeb gyda Llywodraeth San Steffan a sefydlu Iwerddon annibynnol.

Image copyright Hulton Archive
Image caption Swyddfa Post Dulyn ar ôl Gwrthryfel y Pasg, 1916