Cyhoeddi enwau wedi damwain ar yr A470 ddydd Gwener

Yr A470 a thâp heddlu Image copyright BBC/Google

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enwau pedwar o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ddydd Gwener.

Bu farw dau oedd yn teithio mewn car Vauxhall Agila arian - Margaretta Jones, 77, a'i hŵyr pump oed, Ned Jones - yn y fan a'r lle. Roedd y ddau yn dod o Gapel Bangor, Aberystwyth.

Roedd dau o deithwyr car coch Seat Leon hefyd wedi marw yn y gwrthdrawiad. Roedd Vida Alford, 86, a Gillian Alford, 58, ill dau yn dod o Sir Amwythig.

Mae dyn 57 oed yn parhau yn yr ysbyty wedi iddo gael anafiadau difrifol.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A470, yn Rhaeadr Gwy toc wedi 11:45 ddydd Gwener.

Mae swyddogion arbenigol o Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi cymorth i'r teuluoedd ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.

Straeon perthnasol